Wed 5th Jul

Demand for emergency ambulance responses continues to escalate across the developed world, combined with an increasingly well-recognised change in case mix.    In practice this phenomenon is resulting in a preponderance of incidents revolving around what can be described as 'undifferentiated care presentations,' rather than patients experiencing life-threatening conditions, requiring resuscitation and urgent evacuation to hospital.    Some Services have fretted about these changes and focused intensively upon the 'appropriateness' of 999 demand, rather than seeking to meet demand.  This has prompted commentators such as Snooks et al (1998) to suggest that services should worry less about the 'appropriateness' of demand and devote more attention to providing appropriate care.  Nevertheless, progress remains slow and the recent upsurge in terrorist incidents in the UK again acts to highlight the broad spectrum of demand across the whole populations that Ambulance Emergency Medical Services are required to address and also demonstrates the complexity in maintaining competency across such a diverse range of patient groups. 

Once response to this challenge has been the development of specialist practice, while others include proposals to change response time targets, (something that has already happen in Wales, but not yet in England) and projects that seek to co-opt the Fire Service to add capacity through the means of 'Fire 'Medical' or 'co' responding. This session will consider the changing context of care in one UK Ambulance Service before explore how a fundamental change in the concept of operation


 

 

Mae'r galw am ymatebion ambiwlans yn parhau i gynyddu ar draws y byd datblygedig, wedi'i gyfuno â newid cynyddol o ran y math o achosion a gydnabyddir yn fawr.  Mewn ymarfer mae'r ffenomenon hwn yn arwain at ddigwyddiadau y gellid disgrifio'r rhan fwyaf ohonynt yn 'gyflwyniadau gofal anwahaniaethol' yn hytrach na chleifion yn profi cyflyrau sy'n peryglu bywyd, angen dadebru a'u cludo i'r ysbyty ar frys.  Mae rhai gwasanaethau wedi gofidio am y newidiadau hyn gan ganolbwyntio'n ddwys ar 'addasrwydd' galwadau 999 yn hytrach na cheisio diwallu'r galw. Mae hyn wedi arwain i sylwebwyr megis Snooks et al (1998) awgrymu y dylai gwasanaethau boeni llai am 'addasrwydd' y galw a thalu mwy o sylw i ddarparu gofal priodol.  Serch hynny, mae'r cynnydd yn parhau i fod yn araf ac mae'r cynnydd diweddar yn nifer y gweithredoedd terfysgol yn y Deyrnas Unedig unwaith eto yn pwysleisio'r sbectrwm eang o alw ar draws y poblogaethau cyfan y disgwylir i Wasanaethau Meddygol Brys y Gwasanaeth Ambiwlans ymdrin â hwy. Mae hefyd yn dangos pa mor gymhleth ydyw i gynnal gallu ar draws ystod mor amrywiol o grwpiau cleifion.  

 

Un ymateb i'r her hon yw datblygu arfer arbenigol tra bod eraill yn cynnwys cynigion i newid y targedau amser ymateb (sef rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru, ond nid yn Lloegr hyd yma) a phrosiectau sy'n ceisio cyd-optio'r Gwasanaeth Tân i ategu capasiti trwy ymateb 'Tân Meddygol' neu 'ymateb ar y cyd'. Bydd y sesiwn hon yn ystyried cyd-destun newidiol gofal mewn un Gwasanaeth Ambiwlans yn y DU cyn archwilio sut mae angen newid sylfaenol yng nghyd-destun gweithredu i ddiwallu amgylchiadau newidiol.


 

< Back